Gŵyl Agor Drysau yw gŵyl theatr ryngwladol Cymru ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc. Caiff ei threfnu gan Gwmni Theatr Arad Goch.

Cynhelir perfformiadau, gweithdai a sgyrsiau yn nhref Aberystwyth, sef cartref yr ŵyl, ac mewn theatrau eraill yng Nghymru.

Nod yr ŵyl yw rhoi’r cyfle i blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru weld rhai o gynyrchiadau theatr gorau’r byd, a rhoi cyfle i raglenwyr a chynhyrchwyr rhyngwladol brofi cyfoeth celfyddydau perfformio Cymru. Mae hefyd yn darparu gofod ar gyfer deialog ac yn annog cydweithio a rhannu syniadau.

Sefydlwyd yr ŵyl yn 1996, ac fe gaiff ei chynnal am y 10fed tro ar 12-16 Mawrth 2024.